top of page

Cymuned | Cicio yn erbyn y tresi? No wei!

Cymuned | Cicio yn erbyn y tresi? No wei!

Dyma Begw – swyddog y wasg Clwb Pêl-droed Nantlle Vale, sy’n cadw trefn ar gyfryngau cymdeithasol y clwb, ac sydd yn ôl bob tebyg, ‘ar y bêl’ wrth wneud hynny! Dyma flog ganddi, yn arbennig i #LyshCymru

Helo, Begw Elain Roberts ydw i, dwi’n 14 ac yn byw ym Mhenygroes Ddyffryn Nantlle.
Be fysa ti’n dweud yw dy dri phrif ddiddordebau di? Gwylio rygbi, anifeiliaid, coginio? Fy mhrif ddiddordebau i yw pêl-droed, ralïo a motor-beics. Dw i’n un o dri o blant ac yn sicr i gymharu gyda fy chwaer fawr, doeddwn ni ddim byd tebyg iddi. Ers oeddwn yn bump oed dwi wedi bod yn gefnogwr brwd o Nantlle Vale a bellach yn helpu nhw bob hyn a hyn. Cae pêl-droed lleol ond tri chae i ffwrdd o fy nghartref, be well?

Ond ydw i’n cicio yn erbyn y tresi i hoffi pethau sydd i fod i ‘hogia’? No wei!

Roedd tyfu fyny yn rhywbeth oedd yn eithaf rhyfedd i gymharu â genod eraill fy oedran i. Dw i byth wedi bod yn ferch a oedd yn hoffi treulio fy mhenwythnosau’n siopa a gwisgo dillad, arbrofi ar golur. Y pethau sy’n arferol i ‘ferched’. Roeddwn wastad mewn hen ddillad neu hen hoodie fy mrawd mawr. Pan roeddwn yn tyfu fyny doedd gan ein cymdeithas ni ddim llawer o wybodaeth am dimau pêl-droed merched ond mae’n braf i allu dweud fod y sylw am bêl-droed merched wedi gwella yn arbennig o dda ond dydyn ni dal ddim wedi cyrraedd yr entrychion a chael yr un fath o sylw ag y mae bechgyn yn eu cael.

Dwi’n rhannu'r union prif ddiddordebau a fy nhad a dyna be sydd yn mor arbennig am hyn. Fy rhieni sy’n fy ysbrydoli bob dydd i gwblhau pethau heriol ofnadwy yn fy mywyd ac sydd ar fy ochr bob awr o’r diwrnod. Yn wir y bobl o’n cwmpas ni sydd siapio’r personau yr ydyn ni heddiw.

Edrychwch o’ch cwmpas am funud a meddyliwch pe bai eich Nain a Taid heb gyfarfod a phriodi, fyswch chi ddim yma! Dw i ddim eisio i unrhyw ferch dyfu fyny a gorfod teimlo'n ddrwg am fod a diddordebau ‘bechgyn’, mae bod yn ferch yn rhywbeth hynod o gyffrous, weithiau bydd pethau mynd yn heriol ond mae rhaid i chi gario mlaen a dyfalbarhau.

Hyd heddiw dw i ddim wedi newid o gwbl, dydw i ddim yn methu ddim un gêm Nantlle Vale ac yn gefnogwr brwd o Gymru hefyd. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn motor-beics a ralïo o hyd a dwi’n mynd i sawl rali a threialon motor-beics gyda fy nhad. Byddwch yn chi eich hunain. Does dim angen i neb ddweud wrthych chi i i beidio â hoffi’r diddordeb yna oherwydd eich bod yn ferch. Gallwch wneud bob dim. Agorwch eich adenydd a chofleidiwch bob diddordeb sy’n eich denu. Efallai mai ond chi ydy’r yr unig ferch sydd licio’r diddordeb yna ond mi fyddwch yn ysbrydoli merched eraill i gymryd rhan.

Fydda i byth yn newid, bydda i dal wrth fy modd gyda phêl-droed, motorbeics a ralïo tra bydd fy nhraed i ar y ddaear yma. Ni ydy dyfodol merched ar y ddaear yma felly cymerwch bob cyfle a mwynhau bob munud o’ch sgiliau a’ch diddordebau.

Peidiwch â gadael y ffaith ein bod yn ferched i’n rhwystro ni i gymryd rhan ac i wneud unrhyw beth mae dyn yn gallu gwneud.

Begw x

Cymuned | Cicio yn erbyn y tresi? No wei!
bottom of page